08/06/18 – Fe es i i’r seremoni torri tywarchen yn Ysgol Llanfair DC heddiw, i ddweud y gwir, roedd yn fwy o seremoni torri pridd gan fod yr holl dywarch wedi’i symud oddi yno’n barod.
Roedd y tywydd yn fendigedig unwaith eto, ond roedd fy esgidiau wedi’u gorchuddio mewn llwch!
Cafodd fy araith ei dilyn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Roe Williams o Esgobaeth Llanelwy a Chadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol.
09/06/18 – Mynychu Garddwest Clwb Rotari ac Inner Wheel Llangollen ym Mhlas Newydd, Llangollen.
Digwyddiad hyfryd eto eleni, roeddem wedi mynychu fel Is-Gadeirydd y llynedd, ac wedi edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad eleni. Fe wnaeth y trefnwyr ofalu amdanom ac ar ôl i ni weld y stondinau, roeddem yn yfed Pimm’s wrth ymyl stondin Sefydliad y Merched.
Cafwyd te’r prynhawn eto yn y Babell Fawr yng nghanol yr arddangosiadau, digwyddiad llawn mwynhad!!
17/06/18 – Gwasanaeth Dinesig Maer Dinbych yn Eglwys Gatholig Sant Joseff, Dinbych
20/06/18 – Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru Lansiad yr Ŵyl 2018 yn Eglwys Gadeiriol, Llanelwy.
Diodydd i ddechrau am 7.00, gan ddilyn gyda’r Cyngerdd o 7.30 tan 10.30.
Roedd yn dda iawn gyda Pedwarawd NEW Sinfonia, y Soprano Rebecca
Afonwy-Jones o Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru gyda’r cyfeilydd Annette Bryn Parri, Pianydd Sion Edwards, Côr Meibion Bro Glyndwr, Côr Cytgan Clwyd a’r ensemble
Telynau Clwyd. Roedd llawer o ysgolion lleol a phobl ifanc ymysg y perfformwyr.
Thema eleni yw Adlewyrchiadau, i gyd-daro â diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1918. Dylai fod yn Ŵyl gwerth chweil, mynnwch eich tocynnau’n fuan!
24/06/18 – Gwasanaeth Dinesig Maer Wrecsam
Gyda’r Uchel Siryf, yr Arglwyddes Hanmer, yng Ngwasanaeth Dinesig Maer Wrecsam. Roedd yn wasanaeth hyfryd yn Eglwys Plwyf San Silyn yn Wrecsam, gan ddilyn gyda lluniaeth ysgafn yn Sefydliad Garden Village Institute, Kenyon Avenue, Wrecsam.
26/06/18 – Fe aethom i Neuadd y Dref, y Rhyl, i wylio ysgolion ardal y Rhyl yn perfformio “A bit of a Show”. Roedd yr Ysgolion yn cynnwys Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Tir Morfa, Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Mair.
Fe wnaethant roi perfformiad brwd iawn, dan arweiniad medrus Eleri Watkins. Roedd perfformiadau Les Miserables, Lion King a Chess yn wych.
Cafodd yr Ysgolion gymorth gyda thair cân gan Only Boys Aloud, a orffennodd gyda fersiwn gwefreiddiol o You’ll Never Walk Alone.
Fe wnaeth pob Côr Ysgol fynd ar y llwyfan ar gyfer y ddwy gân olaf o’r Greatest Showman. Roedd A Million Dreams a This Is Me yn boblogaidd iawn, gyda’r holl blant ysgol yn gwybod y geiriau.
Noson llawn mwynhad.
27/06/19 – Diwrnod y Lluoedd Arfog a Diwrnod Cenedlaethol Milwyr Wrth Gefn, Neuadd y Sir, Rhuthun
29/06/18 – Seremoni torri tywarchen yn yr Ysgol Gatholig 3-16 newydd yn y Rhyl
30/06/18 – Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yn Llandudno