04/12/18 – Dathliad y Nadolig – Cynhaliwyd Gwasanaeth Carolau Sir Ddinbych yn Eglwys Plwyf Llanelwy. Noson o gerddoriaeth a dathlu ar ddechrau cyfnod y Nadolig. Cafodd pawb noson hyfryd.
11/12/18 – Ymweliad Ysgol â Neuadd y Sir, Rhuthun
12/12/18 – Dechrau cynnar bore ‘ma er mwyn ymweld â Swyddfa Ddidoli’r Post Brenhinol yn y Rhyl. Cefais daith o amgylch y swyddfa gan Reolwr y Swyddfa, Graham Simpson (ar ochr dde’r llun). Roedd y swyddfa’n brysur iawn gyda rhuthr y Nadolig ond roedd pawb yn gwrtais iawn gan ddod o hyd i’r amser i siarad â mi. Fe hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’r holl staff yn ogystal â Didoli Llawen!
14/12/18 Cafodd y llun yma o fi a Sue ei gymryd yn Nathliad Elusennol Penblwydd Maer Dinbych yn 50 oed. Roedd y noson yn un pleserus iawn efo cwmpeini da a deuawd ‘Country and Western’ yn ein diddanu drwy’r nos.
Cawsom croeso cynnes iawn a hoffwn ddiolch yn fawr i Catherine am noson wych.
Gadael Ymateb