01/03/19 – Eisteddfod y Cyngor yn Rhuthun. Cefais y fraint o agor Eisteddfod Cyngor Sir Ddinbych a chael tynnu fy llun gyda’r rhan fwyaf o’r enillwyr.
02/03/19 – Bu i ni fynychu Cyngerdd Maer Sir Ddinbych yn Neuadd y Dref. Roedd Côr Dinbych yn dda iawn a’r ddau unawdydd yn rhagorol. Noson ddifyr iawn.
03/03/19 – Roedd Gwasanaeth Coffa Milwyr Canada yn Eglwys Farmor Bodelwyddan yn wasanaeth hynod deimladwy gyda chynulleidfa fawr iawn yn bresennol. Roedd 11 o Faneri’r Lleng Brydeinig yno yn ogystal â Baner Canada a gludwyd gan y Capten Brad Percival. Gosodais dorch flodau ar ran Cyngor Sir Ddinbych ar Feddfaen Goffa Milwyr Canada, a chroesawais westeion i Neuadd Gymunedol Bodelwyddan yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw am luniaeth. Diwrnod hyfryd.

Llun gan Barrie Mee
08/03/19 – Agoriad Travelodge Glan Môr y Rhyl. Cefais fy nghroesawu gan David Handyside-Cook, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Travelodge dros Gymru a Sophie Owen, Rheolwraig y Gwesty. Ar ôl anerchiad David, bu i mi gyflwyno araith yn diolch i Travelodge am ddod i’r Rhyl a chynnig 25 o swyddi newydd, gan orffen drwy ddymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

11/03/19 – Digwyddiad codi baner ar gyfer Gŵyl y Gymanwlad yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Mae digwyddiad codi Baner y Gymanwlad bellach yn ei chweched blwyddyn ac mae’n dod â chymaint o bobl o bob oed ac o bob cefndir at ei gilydd, ac yn cynnig ffordd gadarnhaol i bobl gysylltu â chyd-ddinasyddion y Gymanwlad mewn teulu sy’n rhychwantu moroedd a chyfandiroedd – gan roi gwir deimlad o obaith ar gyfer y dyfodol.
14-03-19 Cynnal Seremoni Ddinasyddiaeth yn Neuadd y Dref, Rhuthun. Bu’n flwyddyn ddiddorol iawn gyda’r Dinasyddiaethau ac rwyf wedi mwynhau eu mynychu gydag Uchel Siryf Clwyd 2018-19 (y Foneddiges Elizabeth Hamner) ac Arglwydd Raglaw Sir y Fflint (Henry (Harry) Featherstonehaugh)
15/03/19 Dathliad Gwobrau Cymunedol yr Uchel Siryf yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Noson allan braf yn Wrecsam yng nghwmni Cadeirydd Sir y Fflint (y Cynghorydd Paul Cunningham) a’i wraig (Mrs Joan Cunningham). Aeth y noson wobrwyo yn dda a chawsant eu cyflwyno gan y Foneddiges Hamner.
22/03/19 Dawns Maer Llanelwy yn Oriel House, Llanelwy. Cynhaliwyd Dawns Elusennol Y Maer, y Cynghorydd Colin Hardie a’i wraig Mrs Gwenda Hardie yn Oriel House a daeth mwy na 100 o bobl ynghyd. Rhoddais ymateb ar ran y gwesteion gan ddiolch iddynt am noson ardderchog. Fe godwyd llawer o arian ar gyfer eu helusennau Tenovous a Hosbis St Kentigern.
27/03/19 – Ymweliadau Ysgol â Neuadd y Sir, Rhuthun. Roedd yr ymweliad ysgol olaf yn ddigwyddiad llawn hwyl gydag un o’r plant ifanc yn cyhoeddi ei bod yn rhaid ein bod yn “hen iawn” i fod yn Gynghorwyr Sir. Mae’r ymweliadau hyn wedi bod yn llawer o hwyl ac rwy’n gobeithio bod yr holl ysgolion wedi dysgu rywbeth am Gyngor Sir Ddinbych a rolau Cynghorwyr Sir.
31/03/19 Gwasanaeth Cysegru’r Clychau wedi’u Hadfer a Chymun yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun. Roedd y digwyddiad yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun yn deimladwy, ac fe’i gynhaliwyd yng nghwmni Esgob Llanelwy a gysegrodd y clychau sydd wedi eu hadfer. Roedd yn hyfryd cael teisen frau mewn siâp clychau a chacen Rawys ar ôl y gwasanaeth.