15/02/19 – Cynhaliwyd Cinio Elusennol y Cadeirydd yn Oriel House, Llanelwy, gyda’r elw’n mynd tuag at Elusen y Cadeirydd, sef Hosbis Sant Cyndeyrn, Llanelwy. Bu i’r Cadeirydd a’i wraig fwynhau’r noson yn fawr a hoffent ddiolch i bawb a fu’n rhan o’i gwneud yn llwyddiant. Diolch hefyd i’r rheiny a gyfrannodd wobrau ar gyfer y raffl a’r arwerthiant.
16/02/19 – Cyngerdd Elusen Maer Rhuthun yn y Vale Country Club, Rhuthun.
22/02/19 – Ysgolion Iach yn Ysgol y Parc, Dinbych
28/02/19 – Aeth Sue a minnau i noson ragflas Amgueddfa Corwen, oedd yn noson ddiddorol iawn. Gofalwyd amdanom yn dda a bu i ni fwynhau’r noson yn arw.
Gadael Ymateb