Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
Mae’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies wedi cael ei benodi yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer 2019/2020.
Yn saer wrth ei waith, fe ymddeolodd fel Prif Swyddog Rheoli Adeiladu Llywodraeth Leol yn 1996.
Yn briod â Nesta – mae ganddynt bedwar mab a phedwar o wyrion ac wyresau.
Mae’n gyn aelod o’r Fwrdeistref Sirol, a daeth yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych yn 1996.
Bu’n Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych yn 2004/05 a 2010/11 ac mae’n gyn Gadeirydd ar Bwyllgorau amrywiol yn y Cyngor Sir.
Cadeirydd Presennol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Yn gyn aelod o:
Gyngor Prifysgol Cymru, Cyngor Llyfrau Cenedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.
Mae ei hobïau’n cynnwys treulio amser gyda’i deulu, diddordeb mewn hanes lleol ac mae’n aelod o sawl Cymdeithas Hanesyddol.
Mae’n weithgar yn ei Gapel lleol yng Nghefn Meiriadog, ac mae’n un o’r Blaenoriaid yno ers 1977.